Mae ymgyrchwyr Cylch yr Iaith yn honni bod Cyngor Gwynedd eisiau i hanner y disgyblion yn eu  Canolfannau Iaith gael eu dysgu gan gymorthyddion, yn hytrach nag athrawon.

Yn y canolfannau hyn mae plant sydd newydd gyrraedd Cymru yn mynd i gael eu trochi yn yr iaith Gymraeg – er mwyn gallu dychwelyd i’w hysgolion lleol i dderbyn addysg Gymraeg.

Mae Cylch yr Iaith eisoes wedi cwyno am y modd yr aeth Cyngor Gwynedd ati i gynnal ymgynghoriad mewnol ar ail-strwythuro Canolfannau Iaith y sir.

Mae’r ymgyrchwyr yn honni “nad yw’n deg disgwyl [i gymorthyddion] ymgymryd â thasgau y mae gofyn athrawon cymwysedig i’w cyflawni.”

Ond yn ôl Cyngor Gwynedd, does dim digon o arian yn dod gan Lywodraeth Cymru i gynnal strwythur staffio presennol y canolfannau – a dyma pam maen nhw’n edrych at ddefnyddio mwy o gymorthyddion.

 “Gostwng safon”

“Tystiolaeth a barn cyn-benaethiaid a chyn-athrawon cynorthwyol y canolfannau ydi mai’r canlyniad i weithredu hynny fyddai gostwng safon y ddarpariaeth,” meddai Cylch yr Iaith.

Maen nhw’n pryderu na fydd plant yn cael y trochi yn ddigonol yn y Gymraeg.

Byddai hyn yn ei dro, meddai Cylch yr Iaith, yn golygu “na fyddai’r dysgwyr yn medru derbyn addysg trwy gyfrwng yr iaith nac ymdoddi i fywyd Cymraeg ein hysgolion.”

Hefyd, maen nhw’n honni y byddai’r newid yn groes i amcan Siarter y Gymraeg yn yr ysgolion cynradd, a’r strategaeth iaith uwch sy’n ymdrechu i atgyfnerthu’r iaith.

Tystiolaeth adroddiad Estyn

Bydd Cylch yr Iaith yn cyfeirio Cyngor Gwynedd at adroddiad gan Estyn, y corff sy’n arolygu safonau addysg.

Mae adroddiad Estyn ar y Canolfannau Iaith yn rhoi canmoliaeth uchel i’r athrawon.

“Gweithred anghyfrifol fyddai gwanychu’r gwasanaeth hwn sy’n anhepgor i gynnal a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir ac sy’n cyfrannu i gynnal ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned,” meddai Cylch yr Iaith.

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn gwneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol y Canolfannau Iaith ar Ebrill 2, ac mae golwg360 wedi gofyn i’r cyngor am ymateb.