“Tydi o ddim yn amhosib” y gallai Elfyn Llwyd sefyll etholiad i fod yn Aelod Cynulliad tros etholaeth Dwyfor Meirionnydd, meddai wrth golwg360.

Mi fydd yn cychwyn gweithio i’r Blaid yn y Cynulliad fis nesaf, wrth iddo ddod yn rhan o Gabinet Adam Price.

Bydd cyn-Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yn ‘Gwnsler Cyffredinol Cysgodol dros Blaid Cymru’.

Bu’r bargyfreithiwr yn cynrychioli etholaeth Meirionnydd Nant Conwy ac yna Dwyfor Meirionydd yn Senedd San Steffan rhwng 1992 a 2015, ac yn arwain y Blaid yno hefyd.

Ac mae yn dychwelyd i’r byd gwleidyddol – ond yn mynd i’r Cynulliad y tro hwn – i fod yn aelod o Gabinet Cysgodol Plaid Cymru.

Wrth ei waith yn Gwnsler Cyffredinol Cysgodol bydd yn  “rhoi cyngor cyfreithiol, fwy na thebyg ar faterion cyfansoddiadol a gweinyddol, ac [yno] i gynghori pan fydda’ yna anghytundeb rhwng Caerdydd  a San Steffan,” meddai wrth golwg360.

Herio Dafydd Êl?

Does gan Elfyn Llwyd ddim diddordeb mewn bod yn Aelod Cynulliad ar hyn o bryd.

Ers i Dafydd Elis-Thomas adael y Blaid er mwyn cael bod yn rhan o Lywodraeth Lafur Cymru, bu rhai yn darogan y gallai Elfyn Llwyd sefyll tros Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd yn etholiadau’r Cynulliad nesaf.

“Dw i wedi gwneud chwarter canrif o’r gwaith yna yn San Steffan, a dw i ddim yn credu y bydda i â diddordeb yn hynny a dweud y gwir,” meddai Elfyn Llwyd.

Ond “pwy o ŵyr, tydi o ddim yn amhosib” ychwanegodd.

Mi fydd Elfyn Llwyd yn ymddeol o’i swydd yn fargyfreithiwr ymhen mis, cyn dechrau arni eto gyda Phlaid Cymru yn y Cynulliad ym mis Ebrill ble mae’n gobeithio “gallu bod yn bresennol yn eithaf rheolaidd i’r gwahanol gyfarfodydd yn ôl y galw”.

Brolio Adam Price

Mae’r arolwg barn gan BBC Cymru heddiw sy’n darogan y gallai Plaid Cymru gynyddu nifer ei seddi yn y Cynulliad o 10 i 19, wedi “codi calon” Elfyn Llwyd, ac mae’n cadarnhau cryfder yr Arweinydd newydd, meddai.

“Mae’n dangos bod Adam Price a’r tîm wedi gwneud argraff sylweddol iawn dros y chwe mis diwethaf,” meddai.

“Tydi o ddim yn syndod i mi, ond mae hwnna’n gynnydd go sylweddol mewn chwe mis. Mae’n galonogol iawn ac yn dangos bod yr ymagwedd newydd yn dwyn ffrwyth.”