Mae arolwg barn flynyddol Dydd Gŵyl Dewi gan BBC Cymru yn dangos byddai Plaid Cymru yn ennill naw sedd newydd, ac yn cael pedwar Aelod Seneddol yn San Steffan.

Byddai hyn yn golygu byddai gan Blaid Cymru gyfanswm o 19 sedd – mewn 11 etholaeth ac wyth rhanbarth yn etholiadau’r Cynulliad – sy’n gynnydd enfawr i gymharu â’r 10 sedd dydd ganddi ar hyn o bryd.

Roedd yr arolwg yn awgrymu byddai Llafur yn cael 25 sedd (22 etholaeth a 3 rhanbarth), y Ceidwadwyr yn cael 14 sedd (6 etholaeth ac 8 rhanbarth) UKIP yn cael un rhanbarth, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael un etholaeth.

Mae’r arolwg hwn felly yn rhoi’r raddfa uchaf i Blaid Cymru ar y bleidlais etholaethol mewn 16 mlynedd, ac yn golygu byddai Plaid Cymru yn yr ail safle yn y Cynulliad.

“Dirywiad Llafur”

Yn ôl yr Athro Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethu Cymru, Prifysgol Caerdydd, mae’r arolwg “yn dystiolaeth ein bod yn gweld dirywiad yn y gefnogaeth i Lafur ar draws Prydain gan gynnwys ei chadarnleoedd traddodiadol fel Cymru.”

“Ond gyda’r blaid Geidwadol yn methu wrth ddelio â Brexit tydi’r Torïaid ddim mewn sefyllfa wych i fanteisio ar anawsterau Llafur,” ychwanegodd.

Plaid Cymru sydd yn gweld y cynnydd mwyaf felly, gan godi o 24% yn 2018 i 27% eleni gyda’r tair sedd ychwanegol, wrth i Lafur golli chwe sedd, gan ddisgyn o 40% i 34%.

Mae’r Ceidwadwyr ar 23%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 7%, a’r Blaid Werdd ar 2% – sy’n golygu cynnydd o 1% yr un, tra mae UKIP yn aros ar 5%.

O ran pleidleisiau rhanbarthol, eto tuag at Blaid Cymru mae’r llanw yn troi, gyda chynnydd o 25%, tair sedd ychwanegol, wrth i Lafur golli pedwar sedd, gan ddisgyn o 36% i 32%.

Mae’r Ceidwadwyr ar 22% a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 6%.

Wrth edrych ar bleidleisiau etholiadau San Steffan, y darogan yw y byddai 26 Aelod Seneddol i Lafur, 10 i’r Ceidwadwyr, a 4 i Blaid Cymru.

“Gobeithiol iawn i Blaid Cymru”

Mae’r arolwg yn un “gobeithiol iawn” i Blaid Cymru meddai’r Athro Awan-Scully.

“Maen nhw mewn ail safle clir yn y Cynulliad – ac yn wir, mae’r arolwg hwn yn rhoi iddynt y raddfa uchaf ym mhleidlais yr etholaethau nag unrhyw arolwg mewn bron i 16 mlynedd.

“Mae llawer o’r rhai sy’n rhoi’r gorau i Lafur yn troi yn gyntaf at Blaid Cymru,” ychwanegodd.

Yn ôl 46% o’r rhai gafodd eu holi, mae angen mwy o bwerau i’r Cynulliad, ond dim ond 7% sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Mae’n golygu bod “mwyafrif clir o bobol Cymru – fel y mae hi wedi bod am dros ddegawd rŵan – yn cefnogi hunan Lywodraethu yng Nghymru o fewn gwledydd Prydain,” esboniodd yr Athro Awan-Scully.