Mae bwyty yn Sir Benfro wedi bod yn cydweithio ag RSPB Cymru er mwyn creu dau fath o jin newydd sy’n defnyddio planhigion aromatig sy’n tyfu ar Ynys Dewi.

Mae’r ddau jin – ‘Jin Sych Cymreig Ynys Dewi’ a ‘Jin Sych Gwymon Cymreig Ynys Dewi’ – wedi cael eu cynhyrchu gan St Davids Kitchen, ac maen nhw’n cynnwys teim, mintys, eithin a grug o’r ynys.

Mae dyluniad y poteli hefyd yn cynnwys delweddau o rai o’r adar a’r anifeiliaid eiconig sy’n byw ar hyd arfordir Sir Benfro.

Bydd elw’r diodydd yn cael eu cyfrannu tuag at ariannu gwaith cadwraeth ar Ynys Dewi, wrth i 5% o werthiant net pob potel fynd tuag at RSPB Cymru, ynghyd â £10 o werthiant pob darn o waith celf sy’n ymddangos ar y poteli ac sydd ar gael i’w prynu’n unigol.

Gwneud gwahaniaeth

Yn ôl Greg Morgan, Rheolwr Safle RSPB Ynys Dewi, mae’r elusen eisoes yn cael “budd” o’r fenter.

“Mae’r arian sydd eisoes wedi’i godi yn cael ei wario ar uned sterileiddio uwch fioled yn siop yr ynys, sy’n golygu y gallwn ni roi’r gorau i brynu dŵr mewn poteli plastig ar gyfer eu gwerthu, sy’n ein helpu ni i gwrdd â’n haddewid am weithredu yn ddi-blastig,” meddai.

“Bydd hyn hefyd yn darparu dŵr yfed diogel ar gyfer ymwelwyr i’r ynys, ein gwirfoddolwyr a staff.”

Creu swyddi

Dywed Neil Walsh, Rheolwr St Davids Kitchen, fod y fenter yn “torri tir newydd” iddyn nhw fel cwmni, er eu bod nhw eisoes wedi cydweithio â’r RSPB trwy dderbyn cig oen a charw o Ynys Dewi.

“Nid yn unig y bydd yn helpu i gefnogi’r gwaith cadwraeth y mae RSPB Cymru yn ei wneud, ond bydd yn cael effaith economaidd bositif yn y gymuned leol,” meddai.

“Fel Cyflogwr Cyflog Byw achrededig, bydd hyn yn creu o leiaf chwe swydd llawn amser yn Nhyddewi dros y tair blynedd nesaf.”