Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio wedi i ddyn 71 oed gael ei drywanu mewn pentref glan môr yng Ngheredigion ddoe.

Fe gafodd swyddogion eu galw i’r Borth, i’r gogledd o Aberystwyth, wedi’r ymosodiad tua 9.50yb fore ddoe (dydd Iau, Chwefror 28).

Cafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tra’r oedd y dyn yn mynd â’i gŵn am dro ger sw y Wild Animal Kingdom.

Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jon Rees bod swyddogion yr heddlu wedi bod yn gwneud ymholiadau o dy i dy yn y pentref ddoe er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr ymosodiad.

“Hoffwn i sicrhau’r gymuned nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd,” meddai.