Mae cwmni theatr yn symud ei bencadlys o Gaernarfon i Ddyffryn Nantlle.

Mae Theatr Bara Caws yn cyhoeddi heddiw ei fod am wneud ei gartref newydd yn hen dafarn y Vic yng nghanol Pen-y-groes.

Mae adeilad yr hen Victoria Hotel yn Stryd yr Wyddfa wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac wedi mynd a’i ben iddo, ond gobaith y cwmni theatr cymunedol ydi codi £30,000 dros yr wyth wythnos nesaf er mwyn ei brynu a’i droi’n gartref newydd.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisoes wedi rhoi grant am 70% o gost prynu’r adeilad, ac mae gofyn i’r cwmni godi’r 30% arall.

“Mae hwn yn gyfle euraid i ymgartrefu yng nghalon un o bentrefi Cymreiciaf Cymru,” meddai Theatr Bara Caws mewn datganiad heddiw (Dydd Gwyl Dewi).

“Sefydlwyd y cwmni yn wreiddiol mewn cwt ar safle’r Coleg Normal, Bangor, cyn symud i uned ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon yn 1994.

“Erbyn hyn, dydi’r adeilad ddim yn addas i’r pwrpas… ac rydan ni wrth ein boddau i ni ddod o hyd i adeilad delfrydol, sef hen dafarn y Vic…

” Edrychwn ymlaen at yr hyn allwn ni ei gyfrannu i ardal sy’n llawn bwrlwm cymunedol.”