Mae aelod o Gymdeithas Gymraeg Lerpwl yn drist o weld y gymuned yn dirywio.

Mae Ben Hughes yn egluro bod y grŵp arfer cynnal dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Neuadd y Dref a bod dwsinau o gapeli Cymreig wedi bod yn y ddinas ar un adeg.

Ond ers tair blynedd, dyw’r dathliadau ddim wedi cael eu cynnal yn y neuadd- man cwrdd Cyngor Lerpwl – a bellach dim ond tri chapel sydd ar ôl yno.

Mae’n nodi mai dim ond 40 person sy’n aelodau o’r Gymdeithas erbyn hyn, ac mae’n sôn am yr heriau o ddenu’r don ifanc.

“Rydan ni’n lleihau, ac rydan ni’n heneiddio,” meddai wrth golwg360. “Rydan ni i gyd mewn tipyn o oedran rŵan. A dydi’r bobol ifanc – y myfyrwyr – ddim yn dod aton ni.

“Rydan  ni wedi ceisio sawl gwaith i’r myfyrwyr ddod atom ni. Ac rydan ni wedi rhoi taflenni a phob math o bethau i drio eu denu nhw i ymuno â ni.

“Ond mae rhai ohonyn nhw’n dŵad adeg mae yna ginio neu rywbeth fel hynna. Bydd rhai yn dod i ginio Gŵyl Ddewi … merched ydyn nhw, fel arfer.”

Papur bro

Mae Ben Hughes hefyd yn Ysgrifennydd ar bapur bro Yr Angor sy’n rhoi sylw i fywydau Cymry yng Nglannau Merswy a Manceinion.

Mae’n dweud bod 200 copi yn cael eu gwerthu am bob rhifyn – gyda 130 o’r rheiny yn cael eu hanfon trwy’r post – ac mae’n bositif iawn am eu gwaith.

“Rydan ni’n dal i wneud yn reit dda,” meddai. “Ac mae o mewn lliw rŵan.”