Mae yna “leiafrif” o bobol sy’n gwrthod ymweld â Lerpwl hyd heddiw yn sgil boddi Capel Celyn, yn ôl aelod o gymuned Gymraeg y ddinas.

Cafodd pentref hwnnw – yng nghwm Tryweryn, gogledd Cymru – ei droi’n gronfa ddŵr yn 1965, er mwyn darparu dŵr i’r ddinas, a thaniodd ymateb chwyrn ar y pryd.

Mae Dr John Williams yn is-Lywydd ar ‘Gymdeithas Gymraeg Lerpwl’ ac yn cyfeirio at y digwyddiad fel “peth ofnadwy”.

Mae hefyd yn nodi bod “mwyafrif o bobol wedi symud ymlaen” ond bod llawer yn “dal dig” o hyd, ac yn gwrthod ymweld â Lerpwl.

“Dydy nifer o bobol o Gymru ddim yn teithio i Lerpwl oherwydd hynny, hyd yn oed rŵan,” meddai wrth golwg360.

“Ond mae’r mwyafrif, hyd yn oed os doedden nhw ddim y cydweld â’r peth, yn dal yn dŵad i Lerpwl. Os liciwch chi, mae o fatha’r Almaenwyr yn cynnal rhyfel yn erbyn Prydain.

“Rydym ni wedi maddau nhw a cheisio bod yn gyfeillion. Dim anghofio am y peth, ond ceisio bod yn gyfeillgar efo nhw rŵan.

“A dw i’n meddwl bod yna rhai yng Nghymru sydd ddim yn Lerpwl oherwydd Tryweryn. Ond y lleiafrif llethol ydyn nhw.”

“Cydymdeimlad”

Yn ôl John Williams dyw’r “rhan fwyaf” o bobol yn Lerpwl ddim yn gwybod am hanes Tryweryn.

Ond mae’r rheiny sydd yn ymwybodol ohono yn “llawn cydymdeimlad” ac yn “fwy cefnogol na mae pobol yn meddwl”, meddai.

“Pan rydych yn sôn am hanes [Strydoedd Cymreig y ddinas a oedd yn mynd i gael eu dymchwel] a Thryweryn i bobol Lerpwl mae ganddyn nhw ddiddordeb a chydymdeimlad.

“A hynny’n arbennig efo Tryweryn. Dw i ddim yn meddwl faswn i byth yn gweld hynna yn digwydd eto.”