Mae trigolion lleol yn Aberporth yn bwriadu adnewyddu llwybr cerdd yn yr ardal er mwyn dynodi deng mlynedd ers marwolaeth y cyn-Archdderwydd, Dic Jones.

Mae Cyngor Cymuned Aberporth mewn trafodaethau â theulu’r diweddar brifardd er mwyn cynnal a chadw’r llwybr, sy’n cynnwys pytiau o farddoniaeth y ffermwr a dreuliodd ei oes waith ar fferm yr Hendre.

Yn ôl Brychan Llŷr, a greoedd y llwybr ychydig dros ddeng mlynedd yn ôl er mwyn dathlu gwaith ei dad, y nod yw “adnewyddu ac ychwanegu” at y llwybr, sy’n dirwyn o hen gartref y teulu i bentref Aberporth.

‘Syniad’

Er bod y cynllun yn ei ddyddiau cynnar ar hyn o bryd, dywed y cyn-aelod o fand Jess ei fod eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan berchennog newydd yr Hendre, sy’n “ymddiddori yn y ffaith ei fod wedi prynu hen ffarm Dic Jones”.

Ychwanega ei fod hefyd yn ystyried gofyn i blant lleol gyfrannu at y llwybr, gan sicrhau ei fod yn rhywbeth “sy’n eiddo iddyn nhw, ac yn eiddo i’r gymuned”.

“Mae’n rhwydd i ni edrych yn ôl ar fywyd a gwaith Dic yr Hendre, ond er mwyn i hwn fod yn rhywbeth o lwyddiant, dw i ishe iddo fe edrych ymlaen…” meddai Brychan Llŷr wrth golwg360.

“Beth y’n ni’n trio ei wneud yw cael y genhedlaeth nesaf i ymddiddori mewn barddoniaeth, a hefyd mewn celf.

“Y ffordd orau o wneud hynny yw bod yr holl beth yn dod yn fyw ar y llwybr cerdd.”