Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o fwy na £2.9m yn y rhaglen ‘Cymraeg i Blant’ dros y pedair blynedd nesaf.

Cafodd y rhaglen ei sefydlu ym mis Ebrill 2016, ac ers hynny mae degau o filoedd o deuluoedd wedi derbyn cefnogaeth er mwyn defnyddio mwy o’r Gymraeg, yn ôl y Llywodraeth.

Gan barhau a’r cynnydd a wnaed yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae cytundeb newydd wedi cael ei ddyfarnu i’r Mudiad Meithrin.

‘Cymraeg i Blant’

Fel rhan o nod y Llywodraeth i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, maen nhw’n gobeithio cynyddu nifer y plant saith oed sy’n cael eu haddysg drwy’r Gymraeg i 40%.

Mae ‘Cymraeg i Blant’ yn cael ei gweithredu drwy rwydwaith o swyddogion ledled Cymru, sy’n cydweithio â phartneriaid yn ogystal â darparu gweithgareddau sy’n cynnig cyfleoedd i rannu gwybodaeth a chyngor.

Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys grwpiau tylino babanod, sesiynau ioga babanod a sesiynau stori a chân.

“Cyfraniad hollbwysig”

“Mae Cymraeg 2050 yn pwysleisio pwysigrwydd cynyddu cyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg o fewn y teulu yn ogystal â sicrhau twf sylweddol yn nifer y plant mewn addysg Gymraeg,” meddai Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.

“Mae cyfraniad hollbwysig gan Cymraeg i Blant i’w wneud i’r ddwy elfen hon ac rwy’n falch o allu cyhoeddi y byddwn yn parhau i gydweithio gyda’r Mudiad Meithrin i ddarparu cefnogaeth ymarferol i deuluoedd ar draws Cymru.”

Ychwanega Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Gwenllian Lansdown Davies, mai “braint” yw gallu parhau i “wireddu rhaglen gyffrous Cymraeg i Blant gyda gweithgareddau apelgar ar gael yn rhad ac am ddim ar lawr gwlad”.