Mae trigolion yn ardal Trawsgoed, Ceredigion, wedi mwynhau’r diwrnod cynhesaf erioed ar gyfer mis Chwefror.

Fe gyrhaeddodd y tymheredd 20.3⁰C (68.5F) yn yr ardal wledig yng nghanolbarth Cymru heddiw (dydd Llun, Chwefror 25), gan faeddu’r record flaenorol o 19.7⁰C (67.4F) yn Greenwich yn 1998.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, dyma’r tro cyntaf i’r tymheredd godi uwchben 20⁰C (68F) yn ystod tymor y gaeaf.

Daw’r tymheredd uchel union flwyddyn ers i’r tywydd oer, a gafodd ei lysenwi’n ‘Ddihiryn y Dwyrain’, ddod â rhew ac eira i rannau helaeth o wledydd Prydain.

Mae disgwyl i’r heulwen barhau tan ganol yr wythnos, yn ôl arbenigwyr. Ond ar ôl hynny, fe fydd y tywydd yn oeri, gyda siawns am law trwm mewn rhai mannau.