Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau bod pumed aelod o staff wedi cael ei wahardd o’i waith yn sgil ymchwiliad mewnol.

Y gred yw bod yr ymchwiliad yn ymwneud â phryderon ynghylch cynlluniau gwerth £200m ar gyfer datblygu ‘Pentref Llesiant’ yn Llanelli.

Mae’r datblygiad, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, wedi cael ei ohirio am y tro wrth i’r ymchwiliad barhau.

Cafodd pedwar aelod o staff Prifysgol Abertawe eu gwahardd fis Tachwedd y llynedd o ganlyniad i’r un ymchwiliad mewnol, gan gynnwys yr Is-ganghellor, yr Athro Richard B Davies, a deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Marc Clement.

Dyw Prifysgol Abertawe ddim wedi cadarnhau pwy yw’r ddau aelod arall na’r pumed.

“Gallwn gadarnhau bod aelod arall o staff wedi ei wahardd o’i waith fel rhan o’n hymchwiliad mewnol parhaus,” meddai llefarydd.

“Ni allwn wneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.”