Mae trigolion Gogerddan yn mwynhau’r tymheredd uchaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod ym mis Chwefror yn y sir ers 1990.

Mae’r tymheredd wedi cyrraedd 18.8 gradd selsiws ym mhentref Gogerddan, sydd 0.2 gradd selsiws yn uwch nag yr oedd yn Felindre ar Chwefror 23, 1990.

Mae disgwyl i’r heulwen barhau am beth amser eto.