Mae mwy na 100 o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau â chyllell ers i uned newydd gael ei sefydlu yng Nghaerdydd haf diwethaf.

Cafodd tîm Op Scentre ei sefydlu er mwyn lleihau nifer y troseddau â chyllell yn y brifddinas.

Dros gyfnod o chwe mis, maen nhw wedi arestio 101 o bobol, ac wedi meddiannu 46 o arfau a gwerth bron i £90,000 o gyffuriau.

Fe fu’r heddlu’n chwilio amdanyn nhw mewn sawl math o ardal wahanol, gan gynnwys coedwigoedd, parciau a llwyni, sydd i gyd yn llefydd cyffredin i ollwng arfau.

Mae’r tîm hefyd wedi’i hyfforddi i ddefnyddio taser.

Maen nhw wedi ymweld â safl 150 o ddigwyddiadau, ac wedi stopio a chwilio pobol sydd wedi’u hamau o fod yn droseddwyr 350 o weithiau.

Ystadegau allweddol

Yn ôl ystadegau swyddogol, mae bron i draean o blant gwledydd Prydain wedi cael eu heffeithio gan droseddau’n ymwneud ag arfau.

Y rheswm mwyaf cyffredin sy’n cael ei gynnig gan droseddwyr am fod ag arf yw er mwyn amddiffyn eu hunain.

Mae 65% o bobol sydd â chyllell yn eu meddiant ar y strydoedd yn dod yn ddioddefwyr o ganlyniad i’r gyllell honno.

‘Does dim angen cario cyllell’

“Mae newyddion trasig am droseddau â chyllell wedi llenwi’r newyddion yn ddiweddar, a byddai ond yn ychwanegu at y drasiedi honno pe bai pobol ifanc, o ganlyniad, yn teimlo bod angen cario cyllell er mwyn amddiffyn eu hunain,” meddai Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu’r De.

“Does dim angen o gwbl i chi gario cyllell er mwyn amddiffyn eich hun.

“Mewn gwirionedd, mae’r holl dystiolaeth yn dangos eich bod chi mewn perygl llawer uwch o ddioddef trosedd â chyllell os ydych chi eich hun yn cario cyllell.

“Dyna neges y gallwn ni oll – fel ffrindiau, fel teulu a phobol ifanc eu hunain – roi ystyriaeth iddi.

“Ond wrth gwrs, mae’n fater yr ydym yn ei drin o ddifri yn Heddlu’r De ac felly, rydym yn defnyddio adnoddau newydd ar gyfer y dasg, ac yn sicrhau ein bod yn defnyddio’r holl dactegau sydd ar gael i ni.

“Mae tîm Operation Sceptre yn gweithio’n galed, yn enwedig wrth stopio a chwilio, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth allwn ni i fod yn flaengar er mwyn atal y bygythiad o droseddau â chyllell a chadw cymunedau de Cymru’n ddiogel.”