Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i gerddwr gael ei daro gan fws mini yng Nghaerdydd fore heddiw (dydd Sul, Chwefror 24).

Fe ddigwyddodd ar Boulevard de Nantes am oddeutu 1.45yb.

Cafodd dyn 55 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae ei fywyd mewn perygl.

Mae’r heddlu’n awyddus i weld unrhyw ddeunydd dashcam sydd ar gael o’r digwyddiad.

Does neb wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.