Fe achoswyd “difrod sylweddol” i Neuadd Pantycelyn gan ddŵr oedd wedi gollwng drwy’r lloriau, meddai llefarydd ar ran y Brifysgol wrth Golwg360.

“O ganlyniad i ddifrod dŵr yn Neuadd Pantycelyn nos Fercher, 28 Medi difrodwyd system drydanol y neuadd a bu’n rhaid symud y preswylwyr i gyd allan o’r neuadd ac aethpwyd â nhw i ystafelloedd cynadledda Penbryn tra bod staff a thrydanwyr y Brifysgol yn asesu ac yn cywiro’r sefyllfa,” meddai’r llefarydd wrth Golwg360.

Dywedodd fod “difrod sylweddol” wedi ei achosi  i’r adeilad gan y dŵr – “gan fod dŵr wedi gollwng drwy’r lloriau ac wedi achosi i’r larwm dân ganu.”

“Mae’r Brifysgol yn asesu gwir gost y digwyddiad o hyd,” meddai.

Er mwyn sicrhau diogelwch y myfyrwyr mae’r llefarydd wedi cadarnhau fod “asesiad risg llawn” wedi  ei wneud o’r sefyllfa cyn gadael myfyrwyr yn ôl i’r adeilad.

Mae’r Brifysgol yn  “gwybod pwy oedd yn gyfrifol am y weithred” ac wedi dweud y “bydd y person/au yma yn cael ei/u disgyblu yn unol â gweithdrefnau’r Brifysgol.”

Mae gan Brifysgol Aberystwyth gynllun gwerth £40 miliwn i adeiladu neuaddau newydd, gan gynnwys un ar gyfer y Cymry Cymraeg fyddai’n cymryd lle Neuadd Pantycelyn.

Eisoes mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod tri chwmni wedi eu dewis i fod yn rhan o’r cymal diweddara yn y broses o ddod o hyd i ddatblygwr ar gyfer neuaddau preswyl newydd, a fydd yn darparu llety hunan arlwyo modern ar gyfer 1,000 o fyfyrwyr.

‘Siom’

Dywedodd Llywydd UMCA, Tammy Hawkins wrth Golwg360, “Roeddwn i wedi fy siomi fod y lleiafrif wedi difetha popeth i’r mwyafrif,” meddai.

Dywedodd fod digwyddiad o’r fath yn ei gwneud yn anoddach i’r Cymry sicrhau’r hyn maen nhw eisiau ar gyfer y neuadd newydd.

Dywedodd fod awdurdodau wedi pwmpio “300 galwyn” o ddŵr allan o’r neuadd – ond fe bwysleisiodd fod staff, myfyrwyr a wardeiniaid “wedi ymddwyn yn aeddfed a deallus” wrth ddelio â’r sefyllfa yn hwyr yn y nos.

“Mae angen i’r bobl wnaeth hyn fod yn onest. Does dim potsian gyda dŵr a thrydan. Cartref yw Pantycelyn, cymuned – mi liciwn i iddyn nhw ddod ymlaen,” meddai. “Pan maen nhw’n gwneud pethe dwl fel hyn am ba bynnag reswm – dyw e ddim yn iawn. Does dim rheswm ddigon dilys i gyfiawnhau hyn.

‘Peryglu enw da Pantycelyn’

“Maen nhw wedi rhoi neuadd, teulu a chymuned gyfan mewn perygl… Maen nhw hefyd yn peryglu enw Pantycelyn a be allai ddod yn y dyfodol”.

“Dw i’n ceisio ymladd ar hyn o bryd i sicrhau fod y Pantycelyn newydd yn gwmws fel mae’r Cymry Cymraeg moyn. Mae’r ffaith eu bod nhw nawr wedi mynd a trial difetha’r Panty sydd ‘da ni yn barod – wedi gwneud yr achos yn lot fwy difrifol ac yn lot caletach i fi allu dangos bod y Cymry Cymraeg yn haeddu cael popeth maen nhw moyn,” meddai.

Ymhlith yr hyn mae myfyrwyr Cymraeg presennol yn gofyn amdano yn y neuadd newydd mae lolfa fawr a swyddfa UMCA.