Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad merch 14 oed a dynes 22 oed.

Mae Alicia Cox, 14, ar goll o Bentraeth, Ynys Môn.

Mae lle i gredu y gallai hi fod yn ardal Bangor o hyd, neu ei bod yn ardal Bodedern.

Mae hi’n 5’5″, ac mae ganddi wallt brown hir a styden yn ei thrwyn, ac roedd hi’n gwisgo siaced denim lliw glas golau y tro diwethaf i rywun ei gweld.

Jade Messham

Mae Jade Messham, 22, yn dod o Benyffordd yn Sir y Fflint.

Mae hi’n 5’6″ ac o gorffolaeth denau.

Mae ganddi wallt hir iawn sydd wedi’i liwio’n olau.

Mae hi’n siarad ag acen Gymreig.