Cafodd dau o bobol eu hachub ger mynydd Pen y Fan ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 23).
Cafodd y person cyntaf ei daro’n wael ger copa Corn Du, tra bod y llall wedi cwympo a chael anafiadau sylweddol ar lwybr Pont Ar Daf.
Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl cael triniaeth yn y fan a’r lle.
Mae’r tîm achub mynydd wedi diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth yn ystod y ddau ddigwyddiad.