Janet Finch Saunders
Mae’r Ceidwadwyr wedi galw ar weinidogion Llafur Cymru i ddilyn arweiniad clymblaid San Steffan heddiw, a rhewi lefel treth gyngor yng Nghymru.

Bydd George Osborne yn cyhoeddi heddiw bod y trysorlys yn mynd i roi £805 miliwn i gynghorau Lloegr er mwyn eu galluogi nhw i rewi treth gyngor, heb fynd i golled.

Hon fydd yr ail flwyddyn yn olynnol i gartrefi yn Lloegr elwa o benderfyniad i rewi treth gyngor – penderfyniad na fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru y tro diwethaf.

Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn derbyn peth arian drwy fformiwla Barnett yn sgil yr £805 miliwn sydd yn mynd i ysgafnhau baich treth gyngor yn Lloegr.

Yn ôl gweinidog yr wrthblaid ar Lywodraeth Leol yn y Cynulliad, Janet Finch Saunders, “Mae cyhoeddiad Clymblaid y DU ynglŷn â rhewi treth gyngor yn Lloegr, gyda digon o fuddsoddiad i ymestyn i Gymru, i’w ganmol.

“Rydyn ni nawr yn disgwyl i Weinidogion Llafur Cymru gadarnhau sut y maen nhw’n bwriadu gwario’r arian ychwanegol gan San Steffan er mwyn cefnogi pensiynwyr a’u teuluoedd gyda chostau byw.

“Ar adeg pan fod teuluoedd ar draws Cymru yn cyfri’r ceiniogau, mae angen i Weinidogion Llafur Cymru wneud rhagor er mwyn cefnogi trethdalwyr y Cyngor, sydd wedi gweld eu biliau’n dwblu a mwy ers i Llafur ddod i rym 12 mlynedd yn ôl.”