Cymru 21–13 Lloegr

Cafwyd diweddglo dramatig wrth i Gymru guro Lloegr yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Mae gobeithion y Cymry o Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw o hyd wedi i geisiau hwyr Cory Hill a Josh Adams ennill y gêm i’r tîm cartref.

Dechreuodd y ddau dîm yn dda mewn hanner cyntaf cyffrous ond cic gosb yr un gan Owen Farrell a Gareth Anscombe a oedd unig bwyntiau’r 25 munud agoriadol.

Newidiodd hynny pan groesodd Tom Curry am gais cyntaf y gêm yn fuan wedi hynny, y blaenasgellwr yn bylchu’n rhy rhwydd o lawer trwy ganol ryc ddeg medr o’r llinell gais.

Ychwanegodd Farrell y trosiad, 3-10 y sgôr wrth droi.

Dechreuodd yr ail hanner yn fratiog ond daeth Cymru i mewn iddi yn raddol cyn cau’r bwlch i bedwar pwynt gyda chic gosb gan Anscombe.

Soniodd Warren Gatland am ddiffyg disgyblaeth prop Lloegr, Kyle Sinckler, cyn y gêm a hynny’n union a arweiniodd at gic gosb nesaf Anscombe, un pwynt ynddi gyda chwarter y gêm yn weddill.

Ymestynnodd Farrell y fantais i bedwar pwynt gyda chic gosb yn fuan wedi hynny ond roedd ymateb Cymru yn wych.

Nid oedd Anscombe wedi cael ei gêm orau ac roedd Cymru’n edrych fel tîm llawer gwell unwaith y daeth Dan Biggar ar y cae yn ei le.

Pas hir y maswr a arweiniodd at gais Hill ddeuddeg munud o’r diwedd, sgôr a ddaeth wedi 38 cymal o feddiant!

Ychwanegodd Biggar y trosiad cyn creu’r cais nesaf i Adams ddau funud o’r diwedd. Gan wybod bod cic gosb ar y ffordd fe anelodd Biggar gic letraws berffaith i gyfeiriad Adams ar yr asgell a gorffennodd yr asgellwr yn wych.

Diweddglo arbennig gan Gymru yn sicrhau buddugoliaeth gofiadwy ac yn cadw eu gobeithion o Gamp Lawn yn fyw o hyd. Mae dwy gêm anodd o’u blaennau serch hynny, oddi cartref yn yr Alban ac adref yn erbyn y Gwyddelod.

.

Cymru

Ceisiau: Cory Hill 68’, Josh Adams 78’

Trosiad: Dan Biggar 70’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 24’, 52’, 57’

.

Lloegr

Cais: Tom Currry 27

Trosiad: Owen Farrell 27

Ciciau Cosb: Owen Farrell 18’, 63’