Mae Gareth Anscombe yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb fel maswr Cymru yn erbyn Lloegr heddiw.

Hwn fydd cap 24ain Anscombe sy’ wedi’i ddewis yn hytrach na Dan Biggar.

Mae’r gŵr sy’n chwarae i Gleision Caerdydd sydd a’i fam yn Gymraes ac a aned yn Seland Newydd yn barod i herio’r Saeson.

Meddai: “Mae yna wastad lawer o drafod am safle’r maswr yn d’oes ’na?

“Mae’n sefyllfa dda rhyngddo ni yn y gwersyll a rydw i, Biggs, Patch (Rhys Patchell) a Jarrod (Evans) i gyd yn gyrru ’mlaen yn dda iawn. Mae yna lawer o ymddiriedaeth gwirioneddol a llawer o barch rhyngddo ein gilydd.

“Pan ddaw hi i’r rhan yma o’r wythnos, ryda ni i gyd yn canolbwyntio ar helpu’r unigolyn sy’n gwisgo’r crys coch. Y tro yma, rydw i wedi cael y cyfle i’n cynrychioli ni i gyd.

“Wrth gwrs, mae geno ni lawer o gystadleuaeth drwy’r tîm, ond mae’n bwysig fy mod i nawr – ar ôl cael y swydd – yn sefyll i fyny a helpu i arwain y tîm o gwmpas.”

Gan fod Biggar ar y fainc, a Leigh Halfpenny yn dechrau gwella ar ôl dioddef cyfergyd wrth chwarae i’r Scarlets ar y penwythnos, Anscombe fydd nawr yn ysgwyddo’r dyletswyddau cicio.

“Er nad ydwi wedi cicio llawer ar lefel rhyngwladol, rwy’n teimlo fod fy nhicio ar lefel clwb wedi bod yn fwy na chyson dros y blynyddoedd.

Dywedodd ei fod wedi bod yn gweithio yn galed gyda’r hyfforddwr Neil Jenkins dros yr wythnosau diwethaf a’i fod yn gobeithio y bydd hynny yn talu ar ei ganfed.

Ychwanegodd: “Fe fydd yn achlysur anferth, a dwi’n meddwl y bydd yna awyrgylch arbennig yn y stadiwm.

“Ryda ni yn gwybod beth sydd o’n blaenau. Mae nhw (Lloegr) wedi bod yn eithaf clinigol yn y ddwy gêm gyntaf a nhw sy’n debygol o fod yn ffefrynnau ar gyfer y gêm hon, ond ryda ni yn eithaf cyffyrddus ynglŷn â lle ryda ni.”