Mae crwner wedi datgan mai o achosion naturiol fuodd dau ddyn farw ar ôl disgyn ar ddiwedd Hanner Marathon Caerdydd y llynedd.

Cafodd Ben McDonald, oedd yn 25 oed o Gaerdydd, a Dean Fletcher, oedd yn 32 o Gaerwysg, ataliad y galon ar ôl gorffen y ras ym mis Hydref 2018.

Bu farw’r ddau yn Ysbyty Prifysgol Cymru.

Roedd Ben McDonald yn gweithio yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Roedd o wedi rhedeg y ras gyda’i gariad Amy Stanton-Foo, ei ddau frawd, ei frawd yng nghyfraith, a dwy chwaer yng nghyfraith.

Tad i un a chyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd oedd Dean Fletcher. Roedd yn rhan o dîm o 350 o bobol oedd yn codi arian at adran niwro-wyddoniaeth, iechyd meddwl a chanser y Brifysgol.