Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud bod tymer Kyle Sinckler o Loegr yn gallu bod yn “anwadal”, ond ychwanega na fydd ei chwaraewyr yn targedu’r prop.

Mae’r blaenwr sy’n chwarae i glwb yr Harlequins yn Llundain wedi bod yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau dadleuol yn ystod cystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni.

Yn ystod y gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon, bu ffrae rhwng Kyle Sinckler a’r Gwyddel, Peter O’Mahony. Wythnos yn ddiweddarach, cafodd y Sais rybudd gan y dyfarnwr o Gymru, Nigel Owens, ar ôl iddo daro’r Ffrancwr Athur Iturria ar ei ben.

Mae’r prop 28 oed wedi ymddiheuro ers y digwyddiad, gan ddweud ei fod wedi “dysgu gwers”.

“Yn emosiynol, mae’n gallu bod yn anwadal”

Ar drothwy’r gêm fawr rhwng Cymru a Lloegr ddydd Sadwrn (Chwefror 23), mae Warren Gatland wedi cynnig rhai sylwadau am y chwaraewr y bu ef yn eu hyfforddi tra’r oedd yn arwain carfan y Llewod.

“Mae Kyle heb os yn chwaraewr da o ran ei gario, ei sgrymio a’i waith,” meddai. “Ond mae yna her weithiau pan mae’n dod at ei dymer. Mae’n ymwybodol o hynny ac mae chwaraewyr eraill yn ymwybodol o hynny…

“Dw i’n gobeithio na fyddwn ni’n rhan o hynny ddydd Sadwrn. Yn emosiynol, mae’n gallu bod yn anwadal. Dw i ddim yn awgrymu dim nad ydy pobol yn ymwybodol ohono.

“Dydyn ni ddim yn mynd i’w boenydio, oherwydd dydy hynny ddim yn rhan o’n cyfansoddiad. Rydyn ni am fynd allan i chwarae.”

“Disgyblaeth yn hanfodol”

Mae Warren Gatland wedi tanlinellu’r angen am “ddisgyblaeth” ymhlith aelodau carfan Cymru wrth wynebu Lloegr.

“Does dim dwywaith ei bod hi am fod yn gêm gorfforol gyda thipyn o angerdd ynddi,” ychwanega.

“Dw i eisiau i’r chwaraewyr fod yn gorfforol ac emosiynol ond dw i ddim eisiau iddyn nhw fynd dros ben llestri, gan golli eu min neu fod yn rhan o ddiffyg chwarae teg…

“Mae hon yn gêm fawr i’r ddwy garfan ar gyfer gweddill y flwyddyn a’r paratoadau a’r cynlluniau ar gyfer pencampwriaeth Cwpan y Byd yn Siapan.”

Tîm Cymru

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscobe, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Cory Hill, Alun Wyn Jones, Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Ar y fainc

Elliot Dee, Nicky Smith, Dillon Lewis, Adam Beard, Aaron Wainwright, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.

Bydd sylwebaeth fyw o’r gêm ar gael yn Gymraeg ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda disgwyl i’r cyfan gychwyn am 4:45 y p’nawn.