Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud ei fod o blaid cynnal ail refferendwm ar Brexit.

Cyn iddo gamu o’r neilltu ym mis Rhagfyr y llynedd, roedd Carwyn Jones yn ffafrio cynnal etholiad cyffredinol er mwyn datrys yr anghytundeb dros gytundeb Brexit.

Ond wrth siarad ar raglen Pawb a’i Farn ar S4C neithiwr (dydd Iau, Chwefror 21), fe ddywedodd ei fod bellach yn credu mai ail refferendwm yw’r “unig ffordd yn awr”.

Ychwanegodd fod angen gosod dau gwestiwn gerbron y cyhoedd, gyda’r cyntaf yn gofyn a ydyn nhw o blaid aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd, a’r ail gwestiwn yn gofyn a ydyn nhw eisiau bargen y Prif Weinidog neu ddim bargen o gwbl.

Newid barn

“Ar y dechrau, roeddwn i’n dweud ‘reit, mae’n rhaid i ni dderbyn beth sydd wedi digwydd a derbyn y canlyniad’,” meddai Carwyn Jones.

“Ond ar hyn o bryd, ry’n ni’n edrych ar Brexit heb unrhyw fargen. Doedd neb yn dadlau tros hwnna ddwy flynedd yn ôl.

“Os yw hwnna’n wir, yna mae’n holl bwysig bod yr un bobol a gafodd y cyfle i bleidleisio dwy flynedd a hanner yn ôl yn cael y cyfle unwaith eto er mwyn rhoi sêl bendith ar beth bynnag maen nhw mo’yn gwneud.”

Mewn ymateb, dywedodd Mostyn Jones ar ran y Ceidwadwyr y byddai cynnal ail refferendwm yn “annemocrataidd” ac yn mynd yn groes i ganlyniad y refferendwm cyntaf yn 2016.