Mae Aelod Seneddol Pontypridd yn gwrthod trafod y rhwyg diweddara’ yn y Blaid Lafur, er iddo dreulio’r misoedd diwethaf yn lleisio ei farn yn llafar iawn ynglŷn â gwendidau’r arweinydd, Jeremy Corbyn.

Mae Owen Smith hefyd yn gwrthod dweud wrth golwg36o p’un ai fydd o’n aros yn aelod o’r blaid, neu’n croesi’r llawr at y Grŵp Annibynnol newydd sydd wedi’i ffurfio yn San Steffan.

Fe adawodd yr Aelod Seneddol, Joan Ryan, y Blaid Lafur ddoe (Dydd Mercher, Chwefror 20) – yr wythfed wleidydd i ymuno a’r grŵp annibynnol newydd. Y saith arall ydi Lucina Berger, Chris Leslie, Angela Smith, Gavin Shuker, Mike Gapes, Ann Coffey a Chuka Umunna.

Eu rhesymau dros adael oedd oherwydd anniddigrwydd am y modd mae’r arweinydd Jeremy Corbyn wedi delio gyda Brexit a’r honiadau o wrth-semitiaeth.

Wedi “ystyried” gadael

Mae Owen Smith wedi condemnio ei arweinydd am beidio ag ymgyrchu yn erbyn Brexit a thros ail bleidlais gyhoeddus ar ddiwedd mis Ionawr.

Mae hefyd wedi dweud yn gyhoeddus fod yna beryg y byddai tactegau’r prif weinidog, Theresa May, yn gweithio – a hynny gyda chymorth aelodau Llafur.

Yn fwy diweddar, wrth siarad gyda’r BBC ar Chwefror 7, dywedodd Owen Smith bod “llawer o bobol” yn ystyried gadael y Blaid Lafur, a’i fod yntau hefyd yn “ystyried” gadael.

Er bod bwriad y “llawer o bobol” hynny wedi ei wireddu erbyn hyn, ar ôl holi am ddiweddariad personol heddiw (Dydd Iau, Chwefror 21), dywed ei swyddfa wrth golwg360 “nad yw’n barod i drafod materion yn ymwneud ac ymadawiadau’r blaid, ei fwriad yntau, na’i farn ar Jeremy Corbyn”.