Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn “hanfodol” ar gyfer swydd y Prif Weithredwr newydd, yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Prif Weithredwr presennol, Mark James, yn bwriadu ymddeol yn ystod yr haf wedi 17 mlynedd o fod wrth y llyw.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu ymgyrchwyr iaith yn galw ar yr awdurdod lleol i sicrhau bod ymgeisydd sy’n “rhugl yn y ddwy iaith” yn cael ei benodi yn ei le.

Roedden nhw’n pryderu na fydd hyn yn digwydd ar ôl i hysbysebion swyddi swyddogion uwch “yn y cyfnod diweddar” ofyn am lefel uwch o Saesneg nag o’r Gymraeg.

Ond mewn cyfarfod o’r cyngor llawn ddoe (dydd Mercher, Chwefror 20), fe bleidleisiodd cynghorwyr o blaid gofyn am sgiliau lefel pedwar o’r Gymraeg a’r Saesneg, gyda hyfforddiant yn cael ei gynnig os oes ei angen ar yr ymgeisydd llwyddiannus.

Llai o gyflog

Fe wnaeth cynghorwyr hefyd gytuno y bydd y Prif Weithredwr newydd yn ennill £30,000 yn llai o gyflog na’r un presennol, sy’n derbyn £175,000 y flwyddyn.

Bydd panel o 16 o gynghorwyr yn rhan o’r broses benodi, ac fe fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y cyngor llawn.

Yn ôl y cyngor, mae disgwyl i’r pennaeth newydd fod yn ei le erbyn mis Mehefin.