Mae gwasanaeth newyddion dwyieithog newydd wedi dechrau cyhoeddi ar-lein yr wythnos hon.

Yn ôl manylion ar wefan Cronicl y Ddraig, mae’r gwasanaeth “i’r bobol ac i’r Genedl Gymreig” ac fe fydd yn cael ei redeg gan grŵp o wirfoddolwyr.

Mae rhestr o amcanion yn ychwanegu ei fod yn wasanaeth:

  • ar gyfer pobol sydd eisiau gwybodaeth a newyddion dyddiol am Gymru;
  • sy’n canolbwyntio ar newyddion gwladol a newyddion lleol;
  • sy’n gwbl ddwyieithog, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal;
  • sy’n trafod ystod o bynciau gwahanol, gan gynnwys gwleidyddiaeth, amaeth, chwaraeon a chrefydd.

“Ein nod fwyaf un yw bod yn wasanaeth CREDADWY sy’n defnyddio ffeithiau pendant gyda chyfeiriad tuag at y ffynhonnell a ddefnyddiwyd,” meddai’r wefan.

“Fydd y papur yn cael ei reged gan grŵp o wirfoddolwyr i ddechrau [ac] ar hyn o bryd rydym yn chwilio am gynrychiolwyr sirol ac ar ystod o bynciau gwahanol megis amaeth, chwaraeon, trafnidiaeth, gwleidyddiaeth, materion cyfreithiol, busnes, addysg ayyb.”