Mae hanes wedi ei greu mewn ocsiwn i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020, wedi i gyn-bostmon o Dregaron dalu £700 am englyn gan ddarpar Archdderwydd Cymru.

Roedd yr ocsiwn yn rhan o noson gaws a gwin a gafodd ei chynnal yng ngwesty’r Talbot ar Ionawr 26, gyda holl elw’r noson yn mynd at y gronfa leol i gynnal y brifwyl.

A phan ddaeth yr addewid o englyn gan Myrddin ap Dafydd – ar unrhyw destun o ddewis y bidiwr llwyddiannus – i fyny, fe fu dau yn bidio am hydoedd nes cyrraedd £700. Y prynwr oedd cyn-bostmon yr ardal, Defi John Edwards, sy’n dweud y byddai wedi bod yn fodlon mynd lan at £1,000 pe bai angen.

“Fe wnaeth e ddachre ar £100, dw i’n credu, a phan wnaeth e ddachre mynd am lan, roedd pob un yn excited i weld pa mor bell oedd pethe am fynd,” meddai’r gŵr sydd hefyd yn un o brif drefnwyr y rasys trotian blynyddol yn Nhregaron.

“Mae’n anodd gwybod pa mor bell y bydden i wedi mynd, ond bydden i wedi mynd tamed bach eto.”

“Tamaid i aros pryd”

Er nad yw’r englyn wedi ei gyfansoddi eto, dywed Defi John Edwards ei fod wedi gofyn am englyn ar y testun ‘Tregaron’ gan y gŵa fydd yn dod yn Archdderwydd Cymru yn ystod seremoni Cyhoeddi’r brifwyl yn Nhregaron ddiwedd Mehefin eleni.

Mae eisoes wedi derbyn “englyn rhagflas” gan Myrddin ap Dafydd ar ebost, gyda’r ddealltwriaeth y bydd y fersiwn terfynol yn gael ei anfon ato yn dilyn y brifwyl yn 2020.

“Fe ddywedodd e [Myrddin ap Dafydd], achos fy mod i mo’yn englyn i gofnodi’r Eisteddfod yn Nhregaron, y bydd rhaid iddo fe fod yma er mwyn ei sgrifennu,” meddai Defi John Edwards wedyn.

Mae modd gwrando ar y prynwr yn adrodd yr “englyn rhagflas” yma…