Fe fydd cyfres newydd ar BBC Cymru y mis nesaf yn edrych ar y berthynas rhwng Cymru a Lloegr.

Yr Athro Martin Johnes, sy’n ddarlithydd hanes ym mhrifysgol Abertawe, fydd yn cyflwyno’r gyfres sydd wedi ei seilio ar ei lyfr newydd, Wales: England’s Colony?

Dyna fydd enw’r gyfres hefyd, a bydd yn cael ei ddarlledu mewn dwy ran ar Fawrth 11 ac 18 am 9yh ar BBC Two Wales.

Ei fwriad bydd herio rhai o’r syniadau mwyaf sylfaenol am berthynas hanesyddol Cymru a Lloegr a’i le yn y byd gan obeithio i ysgogi trafodaethau ynghylch y dewisiadau cyfansoddiadol sy’n wynebu Cymru wrth iddi adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd ffocws ar sut mae perthynas Cymru gyda Lloegr wedi siapio datblygiad yn wlad, ynghŷd â sut mae Cymru yn gweld ei hun.

Byddwn yn cael ein tywys trwy rhai o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol ein hanes fel rhyfeloedd canoloesol, camdriniaeth ddiwydiannol, y Llyfrau Gleision, terfysgoedd hil 1919 a boddi Tryweryn.

“Gorffennol mwy cymhleth na’r disgwyl”

“Mae hanes wedi siapio sut rydym yn meddwl am Gymru ond mae ein gorffennol yn llawer mwy cymhleth na’r disgwyl,” meddai Martin Johnes.

Mae’n dadlau bod concwest a gormes yr Oesoedd Canol yn golygu mai Cymru oedd gwladfa gyntaf Lloegr – ond dros amser fod Cymru wedi cymodi eu hunain i’r sefyllfa hon cyn dod yn bartner o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig.

Dywed hefyd nad oedd undeb Cymru a Lloegr bydd yn un cyfartal ond mewn democratiaeth mae gan Gymru’r rhyddid i ddewis os yw hi eisiau aros gyda gwledydd Prydain neu ddim.

“Rhan o broblem Cymru yw ein bod yn credu ein bod ni, ac ein bob tro wedi bod yn ddioddefwyr, a heb bŵer i weithredu ar ein pen ein hunain a dewis ein dyfodol,” meddai wedyn.