Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynnig cynyddu’r dreth gyngor o 5.8% er mwyn gwarchod nifer o wasanaethau sy’n bwysig i bobol y sir.

Daeth aelodau cabinet y Cyngor i gytundeb ynglŷn â’r argymhelliad  yn dilyn beth mae’r Cynghorydd Peredur Jenkins, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd, yn ei ddisgrifio fel “blynyddoedd lawer o gyllido annigonol gan y Llywodraeth”. 

Yn ôl Cyngor Gwynedd, dydi’r cyllid maen nhw wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru i dalu am wasanaethau lleol ddim yn ddigon i gwrdd â chostau meysydd fel gofal cymdeithasol ac addysg.

Cynllunio arbedion

Mae’r Cabinet yn cynnig y dylai’r Cyngor wireddu arbedion sydd eisoes ar waith gwerth £2.45 miliwn, er mwyn cyfarch y bwlch ariannol am y flwyddyn nesaf.

Gan obeithio peidio cael effaith negyddol ar bobol Gwynedd, maen nhw wedi adnabod cyfleoedd i wireddu arbedion pellach o £2.73 miliwn.

Yn rhan o’r cyfleoedd yma mae cynyddu’r Dreth Cyngor i 5.8% ar gyfer 2019 a 2020.

“Mae’r Cyngor wedi gwrando ar y sylwadau a gyflwynwyd,” meddai’r Cynghorydd Peredur Jenkins. “Rydym felly yn argymell cyllideb sy’n cydbwyso’r angen i gyfarch y bwlch ariannol wrth warchod gwasanaethau sy’n bwysig i drigolion Gwynedd.”

Faint ydi 5.8%?

Mae cynnydd o 5.8% yn nhreth y cyngor yng Ngwynedd yn golygu talu £75.69 yn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer eiddo Band D arferol, neu £1.46 yr wythnos.

Bydd holl gynghorwyr Gwynedd yn pleidleisio ar gyllideb yr awdurdod mewn cyfarfod o’r cyngor llawn ddydd Iau, Mawrth 7.