Mae perchennog newydd un o adeiladau hynaf Llanbedr Pont Steffan yn bwriadu “buddsoddi’n sylweddol” yn adnewyddu’r gwesty lle bu Dylan Thomas yn aros ac yn cyfansoddi.

Fe gafodd Gwesty’r Llew Du yng nghanol y dref ei ail-agor ym mis Rhagfyr y llynedd, ychydig dros flwyddyn ar ôl i’r perchnogion blaenorol, y cwmni SA Brains, ei gau.

Dyn busnes lleol yw Nick Wright, y perchennog erbyn hyn, ac mae eisoes yn berchen ar ddwy dafarn arall yn yr ardal, sef y Nag’s Head a Thafarn Cwmann.

Mae ei gynlluniau ar gyfer Gwesty’r Llew Du yn cynnwys ail-ddechrau cynnig gwely a brecwast, yn ogystal ag adnewyddu’r ystafell ddigwyddiadau a’r gerddi y tu allan fel bod modd cynnal priodasau yno.

Pampro pobol

“Mae darparu cyfleusterau sba yn opsiwn sydd dan ystyriaeth hefyd,” meddai Nick Wright, sy’n credu bod angen i westy o faint y Llew Du allu cynnig nifer o wasanaethau i gwsmeriaid os yw am ffynnu fel busnes mewn tref wledig.

“Mae’r bwyty yn gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd, ac mae’r bar yn gwneud yn dda hefyd,” meddai wedyn. “Ond gydag adeilad mor fawr, mae’n dal i wneud colled sylweddol.

“Mae angen y stafelloedd, mae angen cefnogi’r gymuned, ac mae angen adeiladu rhywbeth a gwneud y lle’n fusnes cynaliadwy lle y gall pobol ddod i Lanbed er mwyn cael bwyd da neu fynd i ryw ddigwyddiad.”

Mae’r gwaith o adnewyddu’r gwesty eisoes wedi cychwyn…