Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu galwad gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu cyfraith Deddf Cŵn 1953 er mwyn lleihau’r nifer o ymosodiadau ar anifeiliaid fferm.

Ar hyn o bryd, does gan blismon ddim yr hawl i gymryd ci a’i gadw os ydyn nhw’n gwybod pwy yw’r perchennog – hyd yn oed os yw’r ci hwnnw yn gyfrifol am nifer o ymosodiadau.

Nid oes gan y llys y pŵer i wahardd y troseddwr o gael ci arall yn dilyn dedfryd chwaith.

“Difrod emosiynol ac ariannol”

“Mae pryderon da byw yn parhau i fod yn fater pwysig i aelodau Undeb Ffermwyr Cymru ac mae’r Undeb dro ar ol tro wedi dogfennu’r difrod emosiynol ac ariannol mae ymosodiadau ci yn gallu achosi,” meddai Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi’r Undeb.

Mae nifer o ymosodiadau cŵn yn digwydd pan mae ci wedi dianc, a dim ond rhan o’r datrysiad mae cael pobol i gadw ci ar gortyn yn ei sicrhau.

Yn ôl ffigurau, mae ymosodiadau yn costio tua £1.3m y flwyddyn i’r sector defaid.