Mae’r rhaglen Countryfile ar y BBC yn bwriadu cyhoeddus cynlluniau i ailgyflwyno eryrod aur i Gymru wedi absenoldeb o 200 mlynedd.

Mae poblogaeth yr aderyn wedi gostwng dros y blynyddoedd, wedi iddo gael ei erlid a’i ladd.

Ond mewn ffilm arbennig ar y BBC, mae Countryfile am ddatgelu cynlluniau i’w ailgyflwyno yn dilyn arbrofion llwyddiannus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae disgwyl i’r prosiect hybu twristiaeth yn ardal Eryri, ond fe all wynebu gwrthwynebiad gan ffermwyr lleol, sy’n ofni y bydd yr aderyn mawr yn dwyn ŵyn newydd anedig.