Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhybuddio heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 19) na all yr ansicrwydd o gwmpas Brexit fod yn rheswm dros beidio â gweithredu.

Mewn adroddiad, mae’n dangos bod cynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb yn cael ei gymryd o ddifrif ar draws Cymru – a bod nifer o gyrff cyhoeddus wedi bod wrth ers haf 2018 – ond mae’r darlun yn amrywio ar draws y wlad.

Er bod rhai yn paratoi’n drylwyr, mae’n honni mai ychydig o baratoadau sydd wedi eu gwneud hyd yn hyn gan nifer o gyrff cyhoeddus.

Llywodraeth Cymru “angen gwneud mwy”

Wrth weithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth gwledydd Prydain a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl arweiniol meddai’r Archwilydd Cyffredinol.

Yn llwyddiannus, mae cyrff cyhoeddus Cymru wedi adnabod y meysydd risg sy’n cynnwys porthladdoedd; cadwyni cyflenwi meddygol; cadwyn cyflenwi bwyd; gweithlu; risgiau ariannol; deddfwriaeth; allforion amaethyddol; effeithiau economaidd, a lles cyffredinol.

Ond mae amrywiaeth llwyr ynghylch sut mae’r cyrff cyhoeddus hyn y llunio’r risgiau maen nhw’n eu hadnabod.

Mae angen gwneud mwy i fabwysiadu “un gwasanaeth cyhoeddus,” at gynllunio a pharatoadau, ac i weithio ar y cyd.

“Rwy’n ymwybodol iawn nad oes yr un llawlyfr ‘oddi ar y silff’ ar gyfer delio â hyn a bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir nad yw hyn yn bosib lleddfu pob traweffaith Brexit heb gytundeb,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton.

“Er hynny, gyda phythefnos yn unig nes y posibilrwydd o Brexit ‘heb gytundeb’, mae’n glir bod gan gyrff cyhoeddus lawer i’w wneud i baratoi eu hunain a chyhoedd Cymru o hyd.”

198 swydd newydd i Brexit

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu 198 swydd newydd ychwanegol ar gontractau i weithio ar Brexit.

Ond yn ôl yr Archwilydd y broblem yw mai staff presennol sy’n cael eu symud ‘r swyddi hyn, yn hytrach na staff newydd yn cael eu recriwtio.

Mae hyn yn golygu bod pwysau arnyn nhw i gyflawni gwaith sydd ddim byd i’w wneud â Brexit.

Mae’r adroddiad yn ei gwneud hi’n glir bod angen i gyrff cyhoeddus Cymru gynyddu ei hymdrech nawr er mwyn sicrhau bod trefniadau Brexit heb gytundeb yn wydn.