Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi argymell cynyddu’r dreth gyngor o 9.5% er mwyn ceisio “gwarchod cyllidebau ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill”.

Ar ôl toriad arall yn y cyllid mae’n ei gael gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor Sir yn dweud ei fod yn wynebu ei “her ariannol fwyaf hyd yma”.

Ers y flwyddyn ariannol 2013/14, dywed y Cyngor ei fod wedi gorfod gwneud toriadau o fwy na £24m, ac eleni, wedi gwneud gwerth £2.5m o doriadau i wasanaethau.

Dywedodd y cyngor eu bod yn gwneud hyn oll wrth geisio cwrdd â bwlch cyllido o £7m cyn unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor yn ystod 2019/20.

 “Dim dewis”

Yn ôl y Cynghorydd Robin Williams mae hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cymdeithasol.

 Yr un modd ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, nid ydym wedi gweld diwedd i’r llymder ariannol ac mae ein trigolion a’n cymunedau’n parhau i ddioddef o’r herwydd,” meddai.

“Mae gofyn cynyddol wedi arwain at orwariant mewn rhai gwasanaethau ac mae hynny yn ei dro, wedi erydu ein cronfeydd ariannol wrth gefn sy’n golygu na fedrwn eu defnyddio i gydbwyso cyllideb eleni.”

Does gan y Cyngor “ddim dewis ond codi’r Dreth Gyngor i gwrdd â’r bwlch cyllido,” os yw hi am warchod gwasanaethau hanfodol y Cyngor, ychwanegodd Robin Williams.

Fe gefnogodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith gynigion i godi treth ar ail gartrefi i 35%, ynghyd a phremiwm treth gyngor ar eiddo gwag i 100%.

“Effaith ar safonau”

Yn ôl Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, oherwydd y “pwysau ariannol aruthrol sydd arnom, rydym wedi ei chael hi’n anodd iawn gwarchod cyllidebau’r ysgolion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae lleihad yn nifer y staff dysgu’n golygu bod maint dosbarthiadau’n cynyddu a gall hyn yn ei dro gael effaith ar safonau ac arwain at ganlyniadau difrifol i addysg ein plant yn y dyfodol,” esboniodd.

“Rydym yn deall na fydd cynnydd yn y Dreth Gyngor yn boblogaidd, ond mae’n hanfodol fod gwasanaethau megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu gwarchod cymaint â phosib er mwyn diogelu dyfodol ein plant a’n pobl ifanc,” meddai.

Bydd argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn ar ddydd Mercher, Chwefror 27.