Fe fydd cwest yn agor heddiw i farwolaeth bachgen yn ei arddegau ar ôl i’w gorff gael ei ddarganfod yn yr un man lle reodd ei dad wedi lladd ei hun  wythnosau’n gynt.

Cafwyd hyd i gorff Jack Williams, 16, ddydd Llun diwethaf ym Mrynglas, Casnewydd yn agos i’r safle lle roedd ei dad, Darren wedi crogi ei hun.

Roedd Darren Williams wedi lladd ei hun ar ol iddi geisio llofruddio ei wraig oriau yn gynt. Aeth i’r siop trin gwallt – Carol Ann’s Hair Salon yng Nghasnewydd – lle roedd ei wraig Rachel Williams, 39, yn gweithio a dechrau tanio gwn ati.  Cafodd Rachel Williams anafiadau i’w phen glin a chafodd dau o gwsmeriaid eraill hefyd eu hanafu.

Bu’r heddlu’n chwlio am Darren Williams am rai oriau nes i’w gorff gael ei ddarganfod yng nghoedwig Brynglas.

Bu’n rhaid i Rachel Williams gael llawdriniaeth i achub ei choes,a chafodd ei rhyddhau o’r ysbyty yn ddiweddar.

Fe fydd cwest yn agor heddiw yng Nghasnewydd cyn cael ei ohirio nes bod yr heddlu yn gorffen eu hymchwiliadau i’r achos.