Mae dyn 24 oed wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r ymosodiad ar blismon yn Synod Inn yng  Ngheredigion dros wythnos yn ôl.

Mae Darryl Mathew Dempsey o Eastbourne wedi cael ei gyhuddo o sawl trosedd, gan gynnwys ymosod ar heddwas a bod ym meddiant gwn.

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio amdano am ddiwrnodau yn dilyn y digwyddiad yn ne Ceredigion ar Chwefror 9.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli heddiw (dydd Llun, Chwefror 18).

Cafodd dyn arall, sef Wayne Dobson, 29, o Sussex, ei gyhuddo ar Chwefror 12 ac mae’n parhau yn y ddalfa.