Mae dyn 27 oed wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth pensiynwr yn ardal Cimla ger Castell-nedd.

Mae Tom Carney o Dreforys wedi cael ei gyhuddo o ladd David Phillips, 76.

Cafodd corff David Phillips ei ganfod mewn eiddo yn Lime Grove toc wedi 8.15yh ar ddydd Iau (Chwefror 14) yn dilyn adroddiadau o gynnwrf.

Mae disgwyl i Tom Carney ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe heddiw (dydd Llun, Chwefror 18).

Yn ôl Heddlu De Cymru, dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r achos, ar hyn o bryd.