Mae Paul Flynn, yr aelod seneddol Llafur dros Orllewin Casnewydd, wedi marw’n 84 oed.

Fe gyhoeddodd ym mis Hydref ei fod yn bwriadu camu o’r neilltu wedi 31 o flynyddoedd yn ei swydd.

Cafodd ei ethol yn 1987 ac ers hynny, fe fu’n llefarydd materion Cymreig ei blaid ac yn arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin.

Yn 81 oed ar y pryd, ef oedd yr aelod seneddol hynaf i fod yn aelod o’r cabinet cysgodol ers dros ganrif.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi iddo o bob cwr o’r Blaid Lafur.

‘Arwr’

“Gyda thristwch yr ydym yn rhoi gwybod i chi fod ein haelod seneddol, Paul Flynn, wedi marw heddiw,” meddai cangen Llafur Gorllewin Casnewydd.

“Mae Paul yn arwr i nifer ohonom yn nheulu Llafur Casnewydd ac rydym yn galaru am golled ei deulu.

“Gofynnwn fod preifatrwydd teulu Paul yn cael ei barchu ar yr adeg anodd hon.”

‘Cawr’

Roedd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, ymhlith y rhai cyntaf i dalu teyrnged iddo, gan ddweud ei fod yn “gawr y mudiad Llafur”.

“Bydd y newyddion heddiw yn destun tristwch mawr i bawb oedd yn ei adnabod,” meddai.

“Roedd yn un o gyfathrebwyr mwyaf effeithiol ei genhedlaeth – yn Nhŷ’r Cyffredin a’r tu allan.

“Ond parodrwydd Paul i leisio barn am achosion y tu hwnt i’r prif ffrwd gwleidyddol sy’n ei wneud yn nodedig fel gwleidydd o ddewrder a gonestrwydd mawr.”

Ychwanegodd y bu’n “fraint” cael cydweithio â fe.

‘Ffrind da iawn’

“Rwy’n drist iawn o golli fy ffrind da iawn, Paul Flynn,” meddai Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig.

“Roedd ganddo’r fath gariad at Gasnewydd, gwybodaeth am hanes radical de Cymru a hiwmor sych.

“Roedd e’n feddyliwr annibynnol oedd yn gaffaeliad i’r Blaid Lafur.

“Fe fydd colled fawr ar ei ôl.”