Fe fu ffordd A465, Blaenau’r Cymoedd, ynghau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad difrifol fore heddiw (dydd Sul, Chwefror 17).

Fe ddigwyddodd rhwng Dowlais Top a chyffordd y Galon Uchaf.

Mae plentyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Mae’r ffordd wedi’i hagor eto erbyn hyn.