Mae’r heddlu wedi cadarnhau wrth golwg360 fod dyn yn cael triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Abertawe neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 17).

Mae adroddiadau ar wefannau cymdeithasol iddo gael ei drywanu yn ardal Uplands y ddinas, sy’n un o brif leoliadau bywyd nos y ddinas.

Dydyn nhw ddim wedi cadarnhau union natur y digwyddiad, ond maen nhw’n dweud iddyn nhw gael eu galw am 3.30yb.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl.

Mae ymchwiliad ar y gweill.