Cheryl Gillan
Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i wneud esgusodion a bwrw mlaen gyda’r gwaith gafodd ei ethol i’w wneud. Dyna ddywedodd  Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wrth annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol ddydd Sul.

Dywedodd bod gan y Cynulliad y grym a chyllideb gwerth £15 biliwn a’i fod yn bryd iddyn nhw fynd ati i weithredu yn hytrach na llusgo’u traed.

‘Methiannau Llafur’

Bu Cheryl Gillan yn cymharu’r ffordd mae’r Llywodraeth Glymblaid wedi mynd ati i helpu Cymru yn ystod yr argyfwng economaidd, gyda methiannau’r weinyddiaeth Lafur yng Nghymru.

“Does dim dianc rhag y ffaith bod Llafur yn dal mewn grym yn y Cynulliad. Mae penderfyniadau ynglŷn â dyfodol y GIG, ysgolion a  nifer o faterion eraill yng Nghymru yn cael eu gwneud gan y Blaid Lafur. Ac mae’n rhaid i ni frwydro bob dydd i dynnu sylw at eu methiannau ac esbonio sut fyddan ni yn gwneud pethau’n wahanol,” meddai.

Ychwanegodd : “O dan y Blaid Lafur rydych chi’n aros yn hirach i gael triniaeth yn yr ysbty. Mae llai o arian yn cael ei wario ar blant ysgol o’i gymharu â Lloegr. Ac mae economi Cymru yn wannach nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.”

Dywedodd ei bod am wneud gweinidogion yn fwy atebol am eu gwariant a dod â diwedd i rym heb gyfrifoldeb.