Mae cwmni cynnyrch llaeth yng Ngheredigion wedi pwysleisio’u Cymreictod, ond heb fynd i’r afael â’r ffrae tros ddefnyddio baner yr Undeb ar y cynnyrch yn lle’r Ddraig Goch.

Cyn ddoe (dydd Gwener, Chwefror 15), doedd y cwmni sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth ddim wedi trydar ers mis Gorffennaf y llynedd, er ei fod yn ymateb i negeseuon atyn nhw.

Ond mae cyfres o drydariadau uniaith Saesneg wedi ymddangos yn cyfiawnhau Cymreictod y cwmni er gwaetha’r ail-frandio.

Y negeseuon

Yn y neges gyntaf, dywed y cwmni fod gan Rachel’s “hanes a thraddodiad cryf yng Nghymru, lle cafodd ei greu’n wreiddiol gan ein sylfaenydd Rachel Rowlands ar ei fferm laeth, a lle rydym yn parhau i wneud ein iogwrt blasus a 100% naturiol yn ein llaethdy yn Aberystwyth”.

Wrth drafod y llaeth yn yr ail neges, dywed y cwmni ei fod “yn tarddu’n lleol yng Nghymru” a’u bod yn “cydweithio â chriw o ffermwyr llaeth Cymreig ymroddedig sy’n cyflenwi [cwmni] organig Rachel’s yn uniongyrchol”.

Mae’r cwmni’n crybwyll y pecynnu mewn trydedd a phedwaredd neges, gan ddweud eu bod “wedi cyflwyno ein dyluniad pecynnau newydd sbon eleni, yn ogystal ag ymgyrch newydd ar y cyfryngau, sydd yn cyfle ein treftadaeth Gymreig a’n cysylltiad gyda Chymru yn gryf”.

Dywed fod y “dyluniad pecynnau newydd yn ymddangos yn fwy crefftus ond yn atgyfnerthu ac yn amlygu gwaddol organig Rachel’s a’i threftadaeth Gymreig”.

“Mewn gwirionedd, am y tro cyntaf, fe fydd yn cludo’r neges “Wedi’i greu â balchder yn ein Llaethdy Cymreig” ar bob pot, fel datganiad clir i bob cwsmer Rachel’s organic.”

“Wrth wneud hynny, rydym yn credu ein bod yn codi mwy fyth o ymwybyddiaeth o darddiad Cymreig lleol [cynnyrch] Rachel’s organic, i helpu ein ffermwyr lleol yn y pen draw a’r economi leol yn Aberystwyth lle mae Rachel’s Organic yn parhau’n un o’r prif gyflogwyr,” meddai’r cwmni yn y neges olaf.

Mae golwg360 wedi gwneud cais am ymateb gan y cwmni.