Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad merch 18 oed o’r Rhyl.
Does neb wedi gweld Mared Smith ers ddoe (dydd Gwener, Chwefror 15).
Ar y pryd, roedd hi’n gwisgo legins du, top lycra du, hwdi Glan Clwyd lliw glas a gillet gwyn.
Mae lle i gredu y gallai hi fod yn ardal Bae Colwyn neu’r Rhyl.