Mae dyn 30 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Tarodd car Peugeot 208 lliw arian yn erbyn BMW glas am oddeutu 6.50 neithiwr (nos Wener, Chwefror 15).

Fe fu’n rhaid cau ffordd A4229 De Corneli am chwech awr.

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion.