Mae diffoddwyr yn parhau i geisio diffodd tân gwair yn Llanddewi Brefi.

Fe ddechreuodd brynhawn dydd Gwener, dros ardal o ddeg hectar (24.7 erw).

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd wedi achosi’r tân.

Does neb wedi’i anafu yn y digwyddiad.