Mae tri dyn wedi derbyn oes o garchar ar ôl trywanu dyn i farwolaeth yng Nghaerdydd.

Mae Christopher Griffiths, 30, Daniel Roberts, 20, ac Awaz Jamshaid, 19, ill tri wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 61 mlynedd rhyngddyn nhw am ladd Malaciah Thomas, 20.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Malaciah Thomas wedi bod yn canlyn Naomi Davies ar yr un adeg â’r deliwr cyffuriau, Daniel Roberts.

Fe wnaeth Daniel Roberts a’i gyfaill, Christopher Griffiths, drywanu Malaciah Thomas droeon gyda chyllyll ar stryd yn y brifddinas yn ystod oriau mân y bore ar Orffennaf 23.

Yn cynorthwyo’r ddau oedd Awaz Jamshaid a Saif Shazhad, 19, sydd wedi cael ei ganfod yn euog o ddynladdiad ar ôl iddo gynorthwyo Daniel Roberts a Christopher Griffiths i ddal Malaciah Thomas tra oedd yn rhedeg i lawr strydoedd Grangetown.

Bu farw Malaciah Thomas ychydig ddiwrnodau cyn ei ben-blwydd yn 21 oed.

Fe blediodd Daniel Roberts yn euog i lofruddiaeth yn ystod yr achos llys, tra bo Christopher Thomas ac Awaz Jamshaid wedi cael eu canfod yn euog am yr un drosedd.

Mewn datganiad, mae teulu Malaciah Thomas wedi disgrifio’r dynion a oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth yn “gachgwn”.

“Fe fyddwn ni’n cofio Malaciah fel yr oedd – yn fab cariadus a oedd yn cynllunio ar gyfer dathliadau ei ben-blwydd yn 21 oed,” meddai’r datganiad.