Mae cynghorydd sir lleol wedi mynegi ei siom yn dilyn y cyhoeddiad y bydd banc olaf tref Llanymddyfri yn cau o fewn y misoedd nesaf.

Mae cwmni Barclays wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau eu cangen yn y dref farchnad hanesyddol ar Fehefin 7.

Yn ôl y cwmni ei hun, maen nhw wedi dod i’r penderfyniad i gau yn sgil dirywiad yn nifer y cwsmeriaid sy’n defnyddio gwasanaethau’r gangen, gyda mwy yn troi at fancio ar-lein a dros y ffôn.

Yn ôl Cynghorydd Handel Davies, fe fydd cau banc olaf y dref yn “ergyd”, ond ychwanega ei fod yn sefyllfa sy’n wynebu sawl tref wledig ledled Cymru ar hyn o bryd.

“Mae wedi digwydd yn Tregaron; mae wedi digwydd yn Llandysul a Chastell Newydd Emlyn hefyd,” meddai wrth golwg360.

“Mae fel row of dominos. Mae’n digwydd i bob tref wledig.”

Mae’r cynghorydd hefyd yn tristáu oherwydd cysylltiad Llanymddyfri â hanes bancio yng Nghymru.

“Cafodd Banc yr Eidion Du ei sefydlu yn Llanymddyfri,” meddai. “Mae cysylltiad cryf gyda Llanymddyfri fel y dref lle cafodd un o’r banciau cyntaf yng Nghymru ei sefydlu.”