Mae dau frawd wnaeth bledio yn euog i adael i gyrff gwartheg marw bydru ar eu fferm, wedi cael dedfryd o garchar wedi’i ohirio yn Llys Ynadon Aberystwyth heddiw.

Roedd David Davies a Evan Meirion Davies o Fferm Penyffynnon ym Mangor Teifi wedi pledio’n euog i’r 13 cyhuddiad o dorri Deddf Lles Anifeiliaid 2006 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2014.

Ym mis 2018, aeth Swyddogion Iechyd Anifeiliaid Cyngor Ceredigion a milfeddyg Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar y fferm a gweld 58 o gyrff gwartheg wedi pydru mewn siediau ac ar y caeau cyfagos.

Roedd gweddill y gwartheg mewn cyflwr ofnadwy – heb fwyd, dŵr na llety sych.

Cadarnhaodd y milfeddyg bod y gwartheg marw wedi dioddef heb fod angen, eu bod wedi marw o ganlyniad i’r amodau erchyll ar y fferm.

Hwn yw’r achos gwaethaf o esgeulustod lles anifeiliaid mae tîm iechyd anifeiliaid Cyngor Ceredigion wedi ei weld erioed.

“Roedd hwn yn achos eithafol, ac nid yw’n adlewyrchu o gwbl ar ymroddiad y mwyafrif llethol o ffermwyr yng Ngheredigion sy’n cynnal y safonau uchaf o ofal ar gyfer eu hanifeiliaid,” meddai’r Cynghorydd Gareth Lloyd.

Mae’r ddau frawd wedi cael eu dedfrydu i 16 wythnos yn y carchar wedi ei ohirio am 12 mis, a’u gwahardd rhag cadw unrhyw anifail am bum mlynedd.

Fe’u gorchmynnwyd i dalu costau o £1,500 i’r cyngor hefyd.