Bydd pont newydd dros dro yn cael ei gosod dros Afon Rhyd-hir ar yr A497 rhwng Efailnewydd a Boduan, ym Mhen Llŷn, ac yn agor yr wythnos nesaf.

Roedd rhaid cau Pont Bodfel wythnos diwethaf oherwydd difrod strwythurol sylweddol.

Erbyn hyn mae pont Bailey un lôn wedi ei gosod yno sy’n golygu y bydd y ffordd yn cael ei ail-agor o dan system oleuadau traffig ddwyffordd.

Yn y cyfamser, bydd y gwaith o ddiogelu’r hen Bont Bodfel yn mynd yn ei flaen, a chynlluniau i’r sefyllfa tymor hir yn bwrw ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros wasanaethau Priffyrdd a Bwrdeistrefol, ei fod yn “siŵr y byddai’r gymuned gyfan yn cytuno fod yr ateb dros dro yma i’w groesawu.

“Golygai y byddwn yn gallu ail-agor y ffordd yn gynt gan leihau’r risg o ddamwain ffordd ac mae’n galluogi’r gwasanaethau brys i ymateb cyn gynted â phosib i alwadau yn yr ardal.”

“Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bobl leol a gyrwyr am fod mor amyneddgar ers i’r bont gael ei difrodi tair wythnos yn ôl.

“Gobeithio bydd y datblygiad diweddaraf yma yn gwneud bywyd yn haws i drigolion a busnesau’r ardal sydd wedi gorfod gwneud taith ychwanegol o wyth milltir o Foduan i’r Ffôr.”